Cynllun Chwarae Agored Hâf Rhyd y Waun
Yn ogystal â’r cynllun gofal yng Nghartholwg bydd hefyd cynllun chwarae agored yn cael ei chynnal yn Ysgol Uwchradd Rhyd y Waun i blant rhwng 5 ag 11 oed. Bydd y cynllun yn cychwyn ar Dydd Llun Gorffennaf 17eg ac yn para tan Gwener Awst 13eg, ac ar agor i bawb yn rhâd ac am ddim rhwng 10.00 a 12.00. Yn cyd fynd â’r cynllun ond am yw wythnos gyntaf yn ogystal, sef o dydd Llun , Gorffennaf 17eg tan Gwener 23ain bydd yr Urdd yn cynnal Gwersyll chwaraeon i blant dros 7 oed yn dechrau am 12.00 ac yn para tan 4.00. Pris £5 y dydd neu £20 am yr wythnos gyfan. Am fanylion pellach neu i archebu’ch lle yn y gwersyll chwaraeon, yna cysylltwch â Helen Williams ar 01685 833955 / 07976 003358 neu e-bostiwch helenw@urdd.org
GWEITHWYR IEUENCTID Y FENTER YN GWNEUD ARGRAFF

Mae gweithwyr ieuenctid y Fenter bellach wedi’u sefydlu yn ysgolion uwchradd Rhyd y Waun, Llanhari a’r Cymer a’u swyddi yw creu a darparu amrywiaeth eang o weithgareddau Cymraeg i ddisgyblion yr ysgolion hynny. Bellach mae dwy orsaf radio wedi’u sefydlu yn ysgolion Rhyd y Waun a’r Cymer a mae’r disgyblion wedi medru mwynhau llwythi o weithgareddau amrywiol o greu gemwaith i ddrymio. Mae yna hefyd nifer o dripiau wedi’u trefnu yn ymweld â gwyl y Gaeaf yng Nghaerdydd, a chanolfan ddringo Boulders. Mae’r tîm wrthi’n creu gweithgareddau rhad ac am ddim ar gyfer disgyblion yn ystod yr Hâf, felly os ydych chi’n ddisgybl yn unrhyw un o’r ysgolion uchod, yna cysylltwch yn syth â’ch gweithiwr chi, dyma’u rhifau ffôn/cyfeiriadau e-bost :
Rhyd y Waun – Nicola Evans / Gwyn Edwards 07500 878285
Llanhari – Kayleigh Cowles 07917 270301 kayleigh@menteriaith.org
Y Cymer – Craig Howells 07971 270071 craig@menteriaith.org
Wrth reswm, y ffordd gorau i gysylltu yw wyneb yn wyneb, yn yr ysgol.