Home

Menter Iaith

Rhondda Cynon Taf

Newyddion 1

Delwedd a Chartref Newydd I'r Fenter

Delwedd a Chartref Newydd I'r Fenter
Mi fydd y Fenter yn symud i gartref newydd ar ddechrau mis Rhagfyr ac i ddathlu, mae'n mabwysiadu logo a delwedd newydd hefyd. Ein cyfeiriad newydd fydd : Llawr Cyntaf, 9. Y Stryd Fawr, Pontypridd. CF37 1QJ a hwn fydd unig swyddfa'r Fenter o'r flwyddyn newydd.
20/11/2008

Mynd yn "Potty" Yng Ngharth Olwg

Mynd yn "Potty" Yng Ngharth Olwg
Mae'r plant sydd yn mynychu Clwb Carco Garth Olwg yn cael y cyfle i wneud ychydig o grochenwaith bob yn ail Nos Fercher fel rhan o ddarpariaeth y Clwb. Mae'r Clwb yn cael defnydd o 'stafell arbennig ar gampws Garth Olwg ac yn llythrennol yn mynd yn "potty".
Mynd yn "Potty" Yng Ngharth Olwg
13/11/2008

Clybiau Chwaraeon Sgorio '58

Clybiau Chwaraeon Sgorio '58
Bydd Sgorio '58 yn cynnal Clwb Chwaraeon ar ôl ysgol Cyffroes i ddisgyblion ysgolion cynradd Cymraeg. Mi fydd yn dechrau yn y flwyddyn newydd ar Ionawr y 9fed, ac yn cael eu cynnal yn wythnosol. Bydd y clwb yn wreiddiol yn digwydd ar nos Wener ond mae hi'n fwriad estyn hyn ar ôl y Pasg. Dyma fydd yr amserlen wreiddiol :

Nos Wener: 5.00 - 5.50pm: Rugby TAG Derbyn: B1 a B2. Yn y gampfa, Garth Olwg.



Nos Wener: 6.10 - 7.00pm: Pêl droed: Bl 3 & 4 + Bl 5 & 6. Astroturf, Garth Olwg.


Mwy o fanylion i ddilyn yn fuan




Clybiau Chwaraeon Sgorio '58
20/11/2008

Drama-Dâr- Cynllun Drama Newydd yn Aberdâr

Drama-Dâr- Cynllun Drama Newydd yn Aberdâr
Mi fydd y Fenter yn cynnal cynllun drama Cymraeg yn Aberdâr yn y flwyddyn newydd. Cynhelir y cynllun yng Nghanolfan Cwmamam a mi fydd yn agored i ddisgyblion Ysgolion Cynradd yr ardal a mi fydd mewn 2 sesiwn awr yn cychwyn am 4.00 y.h. Bwriadir iddo ddechrau ar Nos Lun, Ionawr 12fed 2009 a rhedeg tan yr Hâf ( gyda toriadau adeg gwyliau ysgol). Mae'r niferoedd yn gyfyngedig a felly os oes gennych ddiddordeb i'ch plentyn fynychu'r cynllun, cysylltwch â'r Fenter ar naill ai 01443 226386 neu 01685 882299. Hefyd allwch chi ofyn am fanylion pellach ar e-bost : prifswyddog@menteriaith.org
29/10/2008

I gofrestru e-bost i dderbyn
gwybodaeth am weithgareddau cliciwch e-chlysur

cofrestru e-bost

Adroddiad Blynyddol 2007 - 2008
Yma > Adroddiad


Beth sy'n digwydd

Digwyddiadau




10.00 Dydd Sadwrn 22/11/2008

Clwb Gwawr
NEGES I FERCHED YR ARDAL MAE'R NOSON GANLYNOL WEDI'I OHIRIO !! DIOD, CYRI a CHLONC yn nhafarn y FARMERS Pentre’r Eglwys Am fanylion, cysylltwch â Karen : Karenmurray27@hotmail.com neu ffonio 01443 843 800
FARMERS Pentre’r Eglwys
7.00 Dydd Mawrth 25/11/2008

Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg
Gwasanaeth Carolau yng nghapel Salem Pentre'r Eglwys fore Iau 4 Rhagfyr am 11 o'r gloch. Bydd nifer o ddysgwyr yn cymryd rhan a chroeso i chi ymuno, petai'n dysgu Cymraeg neu'n rhugl.
Capel Salem Pentre'r Eglwys
11.00 Dydd Iau 04/12/2008

Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg
Ddydd Iau 11 Rhagfyr byddwn ni'n mynd i'r BBC yn Llandaf am daith o amgylch set Pobol y Cwm a stiwdio Newyddion. Dyma'r amserlen: 12 - 1 cinio - mae'r BBC yn darparu cinio 1 - 2 taith o amgylch y setiau 2 - 3 cyfle i gwrdd â rhai o sêr y BBC yn cynnwys Hywel Gwynfryn Bydd angen i chi gyrraedd y BBC yn Llandaf erbyn 12 o'r gloch - fyddwn ni ddim yn trefnu bws. Mae lle i 30 ar y daith yma felly cysylltwch yn fuan trwy ffonio neu anfon e-bost Diolch Shân Morgan Swyddog Dysgu Anffurfiol Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg Prifysgol Morgannwg 07990 578 407
Llandâf, Caerdydd
12:00 Dydd Iau 11/12/2008


Cliciwch yma i brynu a chefnogi
Menter Iaith

48 Ymweliad Heddiw, Cyfanswm 163282

Menter Iaith
Rhondda Cynon
Taf

Bwrdd yr Iaith
Top
Prynwch Yma!