Home

Menter Iaith

Rhondda Cynon Taf

Newyddion 1

Digwyddiadau'r Hydref

Digwyddiadau'r Hydref
Mae'r Fenter wrthi'n trefnu nifer o weithgareddau difyr i ddwyn berswâd arnoch chi i adael eich cartrefi am ambell i noson dros yr Hydref. Mae rhestr gynhwysfawr iw weld ar y dde ar dudalen cartref yr wefan ond yn eu misg mae :
Disgo a carioci yng Nghanolfan Dysgu gydol oes, Gartholwg i ddisgyblion blwyddyn 7 ag 8 ar fedi 12fed.
Noson gyntaf Clwb Cyri'r Fenter sydd yn cael ei chynnal ym mwyty Indiaidd Indica, ar stryd fawr Pontypridd. Pryd o fwyd,safonol,Indiaidd,tri chwrs a comedi yng nghwmni Gari Slaymaker. Y cyfan yn digwydd Nos Fawrth, Medi 16eg. MYNNWCH EICH TOCYN NAWR !!! Manylion llawn yn ein colofn digwyddiadau.
Wedyn edrych ymlaen at Hydref 17fed, Noson casino gydag arian ffug yng Nghlwb y Bont, Pontypriddd. Mynediad yn £5.00 ond am hyn mi gewch $20 o arian ffug er mwyn chwarae roulette neu blackjack.....gwobr i ennillydd mwya'r noson.
Ar Tachwedd 14eg,mi gewch gyfle i weld yr hypnotegydd Wyn Roberts yn Theatr Gartholwg. Pris mynediad yn £6.00
A gyda llaw, os yw'ch mudiad chi wrthi'n trefnu gweithgaredd, rhowch wybod i ni, a mi wnewn ni ei gynnwys yn ein colofn digwyddiadau : e-bostiwch prifweithredwr@menteriaith.org
Digwyddiadau'r Hydref
05/09/2008

Clybiau Carco.

Clybiau Carco.
I'ch atgoffa chi bod clybiau Carco'r Fenter yn ail agor ar ddechrau'r tymor ysgol newydd.
Mae clybiau ar gael mewn deg gwahanol Ysgol Gynradd :

Aberdâr, Bronllwyn,Castellau,Y Dolau, Evan James,Gartholwg,Llwyncelyn,Llantrisant,T onyrefail,Ynyswen.

Mi fydd manylion yn cael eu dosbarthu ym mhob un o'r ysgolion, felly os hoffech i'ch plentyn fanteisio ar yr adnodd pwysig yma..cofiwch gofrestri ac archebu'ch lle !!
Clybiau Carco.
01/09/2008

Gwybodaeth am y Clybiau Carco

Gwybodaeth am y Clybiau Carco
Mae Menter Iaith wedi cyhoeddi taflen sy'n sôn am y gwasanaeth gofal ar ôl ysgol - y Clybiau Carco sydd yn cael eu rhedeg mewn deg ysgol gynradd Gymraeg yn y Sir.
03/09/2008

Eisteddfod Caerdydd 2008

Eisteddfod Caerdydd 2008
Aeth criw Cymunedau'n Gyntaf ar ddau ymweliad i faes yr Eisteddfod yng Nghaerdydd. Roedd rhaid prynu wellingtons ar y maes i gadw'n sych!
Dyma ni ar ein hymweliad â'r 'Steddfod.
Aeth Cymdeithas Gymraeg Y Maerdy Dydd Llun ac aeth Cymdeithas Gymraeg Ty Ddewi a Chymdeithas Gymraeg Penrhiwceibr a Feisgyn dydd Mawrth.
Yn y llun top mae Albert, Annie a Margaret o Dy Ddewi. Mae Annie, sydd yn 95 mlwydd oed, yn hoff iawn o'r wisg Gymreig!
Yn y llun gwaelod mae Val, Paul ac Anthony yn cwrdd â chast Pobl y Cwm yn Maes D.

Cawson ni amser bendigedig yn crwydro'r maes yn y bore ac i mewn i'r pafiliwn yn y prynhawn.
Eisteddfod Caerdydd 2008
09/08/2008

Cofrestrwch i dderbyn
gwybodaeth am weithgareddau

e-chlysur

Beth sy'n digwydd

Digwyddiadau

Menter Iaith Rhondda Cynon Taf
Disgo a carioci i ddisgyblion Blynyddoedd 7 & 8 Nos Wener, Medi 12fed Rhwng 4.00 a 7.00 Pris Mynediad £2.00
Canolfan Dysgu Gydol Oes, Gartholwg
4.00 Dydd Gwener 12/09/2008

Menter Iaith Rhondda Cynon Taf
Noson Gyntaf Clwb Cyri. Pryd o fwyd Indiaidd 3 chwrs a comedi gyda Gary Slaymaker. £18-50 RHAID ARCHEBU O FLAEN LLAW : Cysylltwch ar e-bost : prifswyddog@menteriaith.org neu ffoniwch 01443 226386
Bwyty Indica, Stryd Fawr, Pontypridd ( gyferbyn a'r orsaf drenau)
7.30 Dydd Mawrth 16/09/2008

Menter Iaith Rhondda Cynon Taf
Noson Casino !! Dewch i chwarae roulette a blackjack...gydag arian Ffug !!! Gwobr i ennillydd mwya'r noson. Mynediad £5.00 ( prynu gwerth $20 o arian ffug)
Clwb Y Bont, Pontypridd
8.00 Dydd Gwener 17/10/2008

Menter Iaith Rhondda Cynon Taf
Sioe hypnoteiddio, gyda Wyn Roberts. Dewch yn llu i weld sioe unigryw o adloniadol. Pris mynediad £6.00
Canolfan Dysgu Gydol Oes, Gartholwg.
8.00 Dydd Gwener 14/11/2008


Cliciwch yma i brynu a chefnogi
Menter Iaith

1 Ymweliad Heddiw, Cyfanswm 61639

Menter Iaith
Rhondda Cynon
Taf

Bwrdd yr Iaith
Top
Prynwch Yma!