Home

Menter Iaith

Rhondda Cynon Taf

CYFRANWCH AT MENTER IAITH

Os ydych chin gallu helpu y mae Menter Iaith gwir angen eich cefnogaeth ariannol er mwyn cynnal ein gwasanaethau, yn enwedig pan nad oes grantiau ar gael. Os ydych chin gallu gwneud cyfraniad y mae modd i ni ychwanegu 28% ato trwy Rhodd Gymorth. Os ydych yn gallu perswadio ffrindiau a theulu i wneud hefyd - gwnewch hynny.
Os hoffech fanylion am ein systemau eraill o godi arian megis, tocynnau Tesco, siops ar-lein, nawdd, hysbysebu neu ddigwyddiadau iw noddi ffoniwch 01443 226386.

Prynwch i gefnogi
Menter Iaith

www.buy.at/menteriaith

 

GWEITHGAREDDAU CODI ARIAN

Mae Menter Iaith angen eich cefnogaeth i godi arian er mwyn cynnal ein gwasanaethau a helpu pobl a’r iaith Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf.

Os oes diddordeb gennych chi godi arian tuag at Menter Iaith, mae yna lawer o wahanol weithgareddau gallwch wneud neu gymryd rhan mewn i godi arian.  Gallwch wneud gweithgaredd noddedig fel taith cerdded neu fore coffi.  Os oes busnes gennych gallwch roi hysbyseb mewn gwahanol gylchgronau neu bamffledi mae Menter Iaith yn cynhyrchu.  Gallwch noddi'r digwyddiad nesaf gyda Menter Iaith.  Os oes syniadau newydd i gael am ffyrdd newydd i godi arian rowch wybod i ni.

Mae Menter Iaith bob amser yn chwilio am syniadau newydd a phobl newydd i helpu codi arian.  Y mwy o arian ni gallu codi, y mwy o weithgareddau gellir eu cynnal yn yr ardal a gallwn ddatblygu ein gwasanaethau presennol.  Felly os oes diddordeb gennych chi achub yr iaith Gymraeg helpwch Menter Iaith godi arian.

Llenwch y ffurflen a’i ddychwelyd i Menter Iaith, Y Tŷ Model, Llantrisant, RhCT, CF72 8EB neu cysylltwch â'r Pennaeth Cyllid ar 01443 226386
--------------------------------------------------------------------
Enw:  _____________________________________________
Cyfeiriad / Rhif Ffôn: ________________________________
___________________________________________________
Dwi’n bwriadu gwneud gweithgaredd codi arian: ___________________________________________________ ___________________________________________________
Bydd y dyddiad: _____________

Rwyf am i Menter Iaith ystyried y cyfraniad fel ‘Rhodd Gymorth’ (Dileu os yn amherthnasol)

 

BETH YW GWERTH
Y GYMRAEG I CHI?

Ydy chi eisiau achub yr iaith Gymraeg?  Faint ydy’r iaith Gymraeg yn werth i chi?   £5, £10, £50 neu £500 y mis? Mae lan i chi, mae pob ceiniog yn bwysig i Menter Iaith.  Os ydych chi’n gallu helpu a rhoi cyfraniad mae Menter Iaith wir angen eich cefnogaeth ariannol er mwyn cynnal ein gwasanaethau a helpu pobl a’r iaith Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf.

Mae Menter Iaith yn rhedeg nifer o wahanol weithgareddau fel clybiau carco a chynlluniau chwarae i blant, clybiau Cymraeg a thripiau i ieuenctid, boreau coffi i ddysgwyr a gwasanaethau cyfieithu.  Heb eich help chi mae’n galed i Menter Iaith talu i gadw’r gwasanaethau hyn i fynd.

 Os ydych chi’n gallu gwneud cyfraniad y mae modd i ni ychwanegu 28% ato trwy “Rhodd Gymorth”. Os ydych yn gallu perswadio ffrindiau a theulu  i rhoi cyfraniad  hefyd - gwnewch hynny. Os oes diddordeb gennych chi roi cyfraniad plîs llenwch y ffurflen isod.

Os hoffech fanylion am ein systemau eraill o godi arian megis, tocynnau Tesco, siopau ar-lein, nawdd, hysbysebu neu ddigwyddiadau i’w noddi ffoniwch 01443 226386.

Neu ar ffurf Word >> Cliciwch

 

YDY CHI A’CH FFRINDIAU
YN SIOPA YN TESCO?

Ydy chi eisiau helpu Menter Iaith godi arian?

Os ydych, gellwch chi godi arian at Menter Iaith trwy brynu cardiau siopa Tesco wrth y Menter.

Mae 5% o’r arian chi’n gwario ar gerdyn siopa Tesco gan gynnwys prynnu petrol yn mynd nôl at y Menter.  Mae dosbarthwyr gennym ni yn ardaloedd Llantrisant (Geraint Price 01443 223282), Pentyrch (John Williams 02920 890101), Creigiau (Sheila Dafis 02920 891360), Tonteg (John James 01443 305196), Efail Isaf (Carey Williams 01443 304391) ac Aberdâr (Rhian James 07762 807484).  Mae hefyd angen dosbarthwyr newydd arnynt yn ardaloedd arall RhCT yn enwedig yn y Rhondda a Cwm Cynon.

Mae’r cardiau siopa yn werth £50 yr un ac yn cael ei dosbarthu yn fisol.

Os oes diddordeb gennych chi helpu Menter Iaith pan chi’n siopa yn Tesco gan gynnwys prynnu petrol cysylltwch â John Williams ar 02920 890101 neu john.williams101@btinternet.com, neu cysylltwch â 01443 226386

Tesco

 

RHODD EWYLLYS

Ydy’r iaith Gymraeg wedi bod yn rhan bwysig o’ch bywyd?  Ych chi eisiau’r iaith Gymraeg mynd flaen am byth? Un ffordd i helpu Menter Iaith mynd flaen ar ôl eich amser chi yw gadael cyfraniad yn eich ewyllys.

Bydd Menter Iaith yn defnyddio eich arian er cof i chi i hybu’r iaith Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf.  Trwy adael arian yn eich ewyllys i Menter Iaith gallwn ddatblygu ein gwasanaethau a gweithgareddau a gwneud yn siŵr bod ein gwaith yn parhau am flynyddoedd i ddod. 

Mae’r gwaith i ni’n gwneud nawr yn bwysig am flynyddoedd i ddod ac mae angen pob cymorth posib i wneud yn siŵr bod yr Iaith Gymraeg yn parhau am y blynyddoedd a chenedlaethau i ddod, felly gadwch rywbeth yn eich ewyllys i Menter Iaith a chadw’r Iaith Gymraeg i fyw.

I wneud ewyllys un ffordd yw cael ffurflen o Swyddfa Post, neu gellwch chi fynd at eich cyfreithiwr i wneud ewyllys.  Neu os mae ewyllys gennych chi yn barod gellwch chi newid e trwy eich cyfreithiwr.  Os rydych eisiau mwy o wybodaeth am wneud ewyllys edrychwch ar www.ageconcern.org.uk.

Rydym yn gobeithio y byddwch chi gyda ni am flynyddoedd eto ond, wrth derbyn bod pawb yn gorfod mynd, byddwn yn falch o’ch cymorth pan ddaw.

 

 

 

 

 

 

Menter Iaith
Rhondda Cynon
Taf

Bwrdd yr Iaith
Top
Prynwch Yma!