Home
Cofrestrwch i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau. Cliciwch yma >> e@chlysur

Digwyddiadur
DyddiadAmser BethBle
05/09/2010
Dydd Sul
1:00 - 19:00 Sustrans. Parti Mawr Sustrans Dathlu 15 mlynedd o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Carnifal am ddim i'r teulu ar y tir tu allan i Gastell Caerffili Ymunwch â Sustrans ac Ymgyrch Calon ac Enaid y Cymoedd i ddathlu pen-blwydd y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn 15 oed. Byddwch yn barod am ddiwrnod bythgofiadwy a fydd yn cynnwys yr adloniant gorau o bob rhan o'r Cymoedd a digonedd o weithgareddau llawn hwyl i'r teulu cyfan. Beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd, fe fydd rhywbeth i bawb ym Mharti Mawr Sustrans... Cerddoriaeth ac adloniant byw yn cynnwys band Samba Caerffili; gorymdaith wedi ei hysbrydoli gan natur o amgylch y castell; sinema wedi'i phweru gan feiciau; sioe ffasiynau feiciau eco; gweithgareddau a hwyl ar gyfer plant bach; swyno mwydod; Fferm Gymunedol Greenmeadow; reidiau tywys o Gaerdydd a Phontypridd ....a llawer iawn mwy! Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y daith beicio o Bontypridd neu Caerdydd(gyda arweinydd ddwyieithog) ewch i: www.sustrans.org.uk/bigsustransparty Y tir tu allan i Gastell Caerffili
21/09/2010
Dydd Mawrth Poster
7.00 Addysg Gymuned i Oedolion trwy gyfrwng y. Addysg Gymuned i Oedolion trwy gyfrwng y Gymraeg i gadw lle ffoniwch 01443 744 175 neu e-bostiwch Adulteducation@rhondda-cynon-taff.gov.uk Sbaeneg i ddechreuwyr Pob Nos Fawrth rhwng 7.00-9.00 Dechrau : 21/09/10 10 sesiwn am £38/£10(gostyngiadau) Canolfan Addysg Aman Godreaman St, Aberdâr, CF44 6DF
Wythnosol
DyddiadAmserBethBle
Wythnosol
Dydd Sul
4.30 Ysgol Tang Soo Do Aberdâr Canolfan Gymunedol Penywaun, Stryd Gwladys, Penywaun, Aberdâr Dydd Sul:4.30-6.00yh Plant 6-12 oed Dydd Sul: 6-7.30yh Pawb dros 12 oed Dydd Mercher: 7- 8.30yh Pob Oedran Cyfle i bawb gael hwyl trwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg a’r Coreaneg. Cyfle hefyd i blant ymuno yng nghynllun yr Arweinyddion Ifanc Am fanylion cysylltwch â Siân Moran Ffôn 01639 710595 neu 0759 3556268 Neu e-bost sian.moran@tangsoodo.co.uk www.tangsoodo.co.uk/aberdare.htm Triwch 5 gwers Am Ddim Canolfan Gymunedol Penywaun, Stryd Gwladys, Penywaun, Aberdâr
Wythnosol
Dydd Llun
19:00-21:00 Come along to Pontypridd\'s first SSiW learners group, aimed at learning and developing the Welsh language. All are welcome from total beginners to advanced speaks to promote and develop learning. You will be made to feel at home and put at ease with like minded people, and new friends over a cuppa or even a pint!! A night not to be missed!!! Contact Andrew - 07969542694 or Clwb Y Bont - 01442 491424 Join and download for FREE your very own audio beginners lessons at SAYSOMETHINGINWELSH.COM Clwb y bont Pontypridd
Wythnosol
Dydd Llun
7.00-9.00 SIOP SIARAD CLWB Y BONT Cyfle i ddysgwyr o bob safon gyfarfod am noson gymdeithasol anffurfiol i roi cyfle i siarad, datblygu ac ymarfer eich sgiliau Cymraeg. te, coffi a chwrw ar gael, felly dewch yn llu..mae\'r gwersi i gyd yn rhâd ac am ddim. Am fwy o fanylion cysylltwch â : clwbybont@iantomusic.com or 01443 491 424. CLWB Y BONT
Wythnosol
Dydd Mawrth
2.15pm Coffi Prynhawn Cartref Henoed Tyddewi
Wythnosol
Dydd Mawrth
11.00 Bore Cofffi Croeso i blant ddod!! Amgueddfa Cwm Cynon
Wythnosol
Dydd Mawrth
11.00 Dewch i ganolfan chwarae RUMBLE IN THE JUNGLE, CLYDACH VALE, pob bore Dydd Mawrth yn dechrau o 12.01.10 am gyfle i gwrdd a ffrindiau newydd, cael paned a sgwrs yn y Gymraeg tra bod eich plant yn chwarae. £2 i bob plentyn - HANNER Y PRIS ARFEROL!!! DIOD A TOST AM DDIM I\'R PLANT. CROESO I BAWB! Canolfan chwararae RUMBLE IN THE JUNGLE, CLYDACH VALE.
Wythnosol
Dydd Mercher
10.30am Bore Coffi Canolfan Bowlio, Aberpennar
Wythnosol
Dydd Mercher
3.05pm Clwb Cymraeg gyda Vicky Pugh - pob dydd Mercher - 3.05 - 4.00pm am 50c - Blwyddyn 12 & 13 Ysgol Gyfun Glynrhedyn
Wythnosol
Dydd Mercher
11.00 DECHRAU NEWYDD i Dŵr Dâr! Cyfle i deuluoedd ifanc â phlant, nofio,chwarae a chyfathrebu trwy\'r iaith Gymraeg. Mae Dŵr Dâr yn cael ei gynnal pob DYDD MERCHER am 11.00 ym mhwll nofio Aberdâr. Mynediad yn £2.35 i oedolion ond bydd y plant yn cael nofio am ddim. Wedyn am 12.00 mi fydd cyfle i gyfarfod am baned, cymdeithasu, a gweithgareddau achlysurol, yn ystafell 147. Am fwy o fanylion : Cysylltwch â Catrin Reynolds, cyd-lynydd teulu y Fenter ar 07500 878289 neu e-bostiwch : catrinreynolds@menteriaith.org PWLL NOFIO ABERDÂR
Wythnosol
Dydd Mercher
1.30 SESIWN \"TORRI GEIRIAU\" DOSBARTHIADAU CYMRAEG LLE MAE\'CH PLENTYN YN DYSGU A DATBLYGU SGILIAU GEIRIOL CYMRAEG TRA\'N CHWARAE. YN ADDAS I BLANT RHWNG 12 MIS A 5 MLWYDD OED. FFI COFRESTRU O £10 ( HYN YN CYNNWYS PECYN CROESO SY\'N CYNNWYS BAG A CHRYS T), YNA POB DOSBARTH YN £4.00. CLWB CLONCAN MENTER IAITH YN DILYN . AM FWY O FANYLION AM GYNLLUN TORRI GEIRIAU, CYSYLLTWCH Â CARYS LLEWELYN 0785 9997842 CARYS@TALKINGTOTS.INFO YSTAFELL GYNHADLEDD GARTH OLWG ( GER Y CAFFI)
Wythnosol
Dydd Iau
12.45pm CIC - Clwb Cinio i ddisgyblion oedran uwchradd pob dydd Llun 12.45-1.45pm - 50c Ysgol Gyfun Rhydywaun
Wythnosol
Dydd Iau
12.00 Bore Coffi Cymraeg. Bob dydd Iau am 12.00 yn y Miwni, Pontypridd. Miwni, Pontypridd
Wythnosol
Dydd Iau
7.00 Mae gwersi Cymraeg yn ailddechrau yng Nghlwb y Bont! Pob nos Iau, o 7 o’r gloch, yn dechrau ar Fawrth y 19eg. Gwersi anffurfiol - galwch i mewn os allwch chi. Beth bynnag yw safon eich iaith, dewch i gael diod a sgwrs yn Gymraeg\" Os oes gennych chi gwestiynnau, galwch neu ebostiwch Cathryn neu Brett ar cathrynrees@hotmail.com 0752 7152795 Brett@aradconsulting.com 07790 134736 CLWB Y BONT, PONTYPRIDD
Wythnosol
Dydd Gwener
11.00 Bore Coffi Cymraeg. Bob Dydd Gwener am 11.00 Tafarn y Barn, Llantrisant Tafarn y Barn, Llantrisant
Wythnosol
Dydd Gwener
5.00 Bydd Sgorio \'58 yn cynnal Clwb Chwaraeon ar ôl ysgol Cyffroes i ddisgyblion ysgolion cynradd Cymraeg. Mi fydd yn dechrau yn y flwyddyn newydd ar Ionawr y 9fed, ac yn cael eu cynnal yn wythnosol. Bydd y clwb yn wreiddiol yn digwydd ar nos Wener ond mae hi\'n fwriad estyn hyn ar ôl y Pasg. Dyma fydd yr amserlen wreiddiol : Nos Wener: 5.00 - 5.50pm: Rugby TAG Derbyn: B1 a B2. Yn y gampfa, Garth Olwg. Nos Wener: 6.10 - 7.00pm: Pêl droed: Bl 3 & 4 + Bl 5 & 6. Astroturf, Garth Olwg. Mwy o fanylion i ddilyn yn fuan Campws Garth Olwg
Wythnosol
Dydd Gwener
12.45 Beth?: Cwrs Tai\'chi Ble?: Gartholwg Pryd?: Bob dydd Gwener Amser?: 12.45 - 1.30 Pris?: Am ddim Canolfan Garth Olwg
Wythnosol
Dydd Gwener
2.30 Dydd Gwener 1 Mai - 2.30 - 3.30 PANED A CHLONC - Amgueddfa Aberdâr - cyfle i sgwrsio a chymdeithasu Amgueddfa Aberdâr
Wythnosol
Dydd Gwener
11.00 RHYWBETH NEWYDD AM FIS MEDI! - YN DECHRAU O 17.09.10 - Dewch i ganolfan chwararae MERLIN\'S CASTLE, (Enw newydd cyn bo\' hir! - Jolly Jesters)Pontyclun, Pob bore Dydd Gwener am gyfle i gwrdd a ffrindiau newydd, cael paned a sgwrs yn y Gymraeg tra bod eich plant yn chwarae. Croeso i bawb! (Dysgwyr hefyd) Canolfan chwarae Merlin\'s Castle, Pontyclun
Wythnosol
Dydd Sadwrn
10-12y.p DISGWYL DISGLED - AM DDIM!! yn dechrau o 10.04.10 Pob bore Dydd Sadwrn am 6 wythnos Ydych chi\'n disgwyl babi? Ydych chi angen fwy o wybodaeth am: Paratoi ar gyfer babi, Hawliau gwaith menywod beichiog, Dwyieithrwydd yn y cartref, Adnoddau a sefydliadau gwarchod Cymraeg lleol, Materion ariannol teulu ...Dewch i gael disgled o goffi a thrafod ag arbenigwyr Cymraeg! (Thema gwahanol bob wythnos)... Croeso i bawb! (Yn cynnwys teuluoedd) Cysylltwch â Catrin Reynolds NAWR er mwyn cofrestru eich diddordeb. e-bostiwch: catrinreynolds@menteriaith.org neu ffoniwch 07500 878 289 Cynon Valley Indoor Bowls Centre, Aberpennar
Cysylltwch â
01443 407570
Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, Llawr 1af, 9A Stryd Fawr, Pontypridd. CF44 7ES am wybodaeth bellach


^ Dechrau

Menter Iaith
Rhondda Cynon
Taf

Bwrdd yr Iaith
Top
Prynwch Yma!